Cyflwyniad i radio yng Nghymru

 

1.    Mae radio yn cyflawni rôl bwysig iawn yng Nghymru ac mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan wrandawyr. Yn 2017, adroddodd Ofcom bod cyfran uwch o bobl yng Nghymru yn gwrando ar radio na'r gyfran sy'n gwrando ar radio yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, ac yn ystod y 12 mis tan Ch1 2017, roedd radio wedi cyrraedd 91.6% o boblogaeth yr oedolion yng Nghymru, sef y ganran uchaf o blith unrhyw un o genhedloedd y Deyrnas Unedig[1].

 

2.    Mae gwrandawyr yng Nghymru yn manteisio ar gymysgedd o ffynonellau radio, a cheir dewis sy'n cynyddu o orsafoedd masnachol cenedlaethol a lleol o ganlyniad i'r ymdrechion a wnaethpwyd i ehangu'r rhwydweithiau darlledu sain digidol (DAB). Yn ychwanegol i'r gwasanaethau analog a digidol sydd ar gael ar draws y Deyrnas Unedig, gall Cymru fanteisio ar 20 o orsafoedd masnachol analog lleol trwyddedig a ddarlledir yng Nghymru, tri gwasanaeth y BBC (BBC Radio Wales sy'n darlledu yn Saesneg, a BBC Radio Cymru a gorsaf newydd BBC Radio Cymru 2 sy'n darlledu yn Gymraeg), yn ychwanegol i naw gwasanaeth radio cymunedol.

 

3.    Mae pedwar cwmni radio masnachol yn gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd: Communicorp, Global, Nation Broadcasting a Wireless Group.

 

 

 

 

 

Gwasanaeth Radio’r BBC

 

4.    Mae Siarter gyfredol y BBC yn nodi amcanion clir i'r BBC barhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau radio o ansawdd uchel yn genedlaethol ac i Gymru. Y prif newid yw'r gofyniad newydd ar y BBC i sicrhau amrediad arbennig o wasanaethau nas darparir mewn man arall ac mae gwasanaethau cenedlaethol y BBC i Gymru yn agwedd bwysig iawn ar hyn, sef BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru. Mae trefniadau llywodraethu newydd sy'n cael eu goruchwylio gan Ofcom yn sail i hyn, gan gynnig sicrwydd cryfach ar gyfer perfformiad y BBC yn erbyn ei hamcanion. Mae'r llywodraeth yn croesawu'r penderfyniad a wnaethpwyd gan y BBC yn ddiweddar i fuddsoddi mewn newyddion lleol ac i ddatblygu gwasanaeth Radio Cymru 2.

 

5.    Yn ogystal, roedd Cytundeb y BBC yn pennu darpariaeth am gronfa newydd y mae modd cystadlu am gymorth ganddi er mwyn cynorthwyo cynnwys gwasanaeth cyhoeddus mewn genres na wasanaethir yn ddigonol. Mae'r llywodraeth yn gweithio gyda chyrff y diwydiant radio i ddatblygu cynllun i gynorthwyo radio dan y Gronfa Gystadlu, a bydd yn cyhoeddi manylion pellach yn nes ymlaen eleni.

 

Dadreoleiddio radio masnachol

 

6.    Mae'r llywodraeth o'r farn nad yw strwythur cyfredol rheoleiddio radio masnachol yn addas i'r diben mwyach. Cynlluniwyd y strwythur deddfwriaethol cyfredol ar gyfer gwasanaethau radio AM ac FM tua diwedd y 1980au, felly mae wedi dyddio, ac mae'n feichus gan fod y diwydiant wedi esblygu wrth i arferion gwrandawyr esblygu ac wrth i dechnolegau newydd, megis radio digidol ac ar-lein, a gwasanaethau ar-alw megis TuneIn, Spotify ac Apple Music, ddatblygu. Mewn cyferbyniad â gwasanaethau radio analog, ceir nifer gymharol fach o ofynion ar gyfer radio digidol.

 

7.    Er 2003, mae Ofcom wedi manteisio ar yr hyblygrwydd a roddwyd gan y Senedd er mwyn ei alluogi i symleiddio'r beichiau rheoliadol ar radio masnachol. Mae wedi gwneud hyn trwy safoni ffurfiau, ymlacio'r gofynion ar ffurfiau cerddoriaeth a thrwy weithredu'r newidiadau a ddarparwyd dan Ddeddf yr Economi Ddigidol 2010 i ganiatáu mwy o hyblygrwydd i orsafoedd lleol rannu safleoedd a chynnwys rhwydwaith. Cyflwynwyd y newidiadau penodol hyn er mwyn cynorthwyo hyfywedd gorsafoedd radio masnachol lleol trwy ganiatáu i grwpiau radio masnachol lleol gydleoli cyfleusterau cynhyrchu, rhwydweithio mwy o gynnwys a lleihau eu costau sefydlog. Fodd bynnag, roedd newidiadau 2010 wedi gadael mwyafrif y gofynion rheoliadol ar radio masnachol yn eu lle, yn enwedig o ran ffurfiau cerddoriaeth a chynhyrchu lleol.

 

8.    Mae sector radio masnachol y Deyrnas Unedig yn wynebu nifer o sialensiau pwysig dros y ddegawd nesaf, o dwf ac ymlediad ffyrdd newydd o fanteisio ar gynnwys sain ac nid y lleiaf, yr her sy'n deillio o wasanaethau ar-lein, ynghyd â'r angen i fuddsoddi mewn gwasanaethau cynnwys newydd a manteisio ar lwyfannau newydd er mwyn cynnal ei gynulleidfaoedd.

 

9.    Yn dilyn gwaith rhagarweiniol gan Ofcom, lansiodd y llywodraeth ymgynghoriad mawr yn amlinellu cynigion i ddadreoleiddio trwyddedu radio masnachol ar 13 Chwefror 2017. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad am 12 wythnos, a daeth i ben ar 8 Mai 2017. Cafwyd 67 o ymatebion at ei gilydd gan ystod eang o ymatebwyr, gan gynnwys darparwyr gwasanaeth yng Nghymru, academyddion, aelodau'r cyhoedd a Phwyllgor Cynghori Ofcom ar gyfer Cymru.

 

10. Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr o blaid y cynigion i ddadreoleiddio'r sector radio masnachol. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys sawl maes allweddol, megis gwaredu ffurfiau cerddoriaeth, rôl gwasanaethau newyddion a gwybodaeth ar y radio a sut i sicrhau hyn ar ddigidol, cyfnodau trwydded hyblyg yng ngoleuni newid posibl i ddigidol, gofynion darlledu cydamserol a neilltuo sbectrwm gwag i wasanaethau radio cymunedo.

 

11. Yn gyffredinol, roedd ymatebwyr yn gefnogol o'r ffaith y dylid gwaredu rôl statudol gyfredol Ofcom o sicrhau amrediad o ddewis o ran gwasanaethau radio lleol a chenedlaethol. Roedd consensws ynghylch y ffaith, gyda'r detholiad o wasanaethau ar FM, digidol, ar-lein a gwasanaethau ar-alw, nad oes angen i Ofcom orchymyn pa fath o gerddoriaeth y dylai fod modd i orsafoedd ei chwarae. Roedd rhywfaint o bryder ynghylch y ffaith y gallai ardaloedd y tu allan i ddinasoedd (yn enwedig yn y cenhedloedd) ddioddef llai o ddewis pe byddai gwasanaethau'n newid eu ffurf er mwyn gwasanaethu cynulleidfaoedd prif ffrwd, fodd bynnag, nid ydym yn disgwyl i hyn ddigwydd. Bydd gorsafoedd yn gallu arbrofi gyda cherddoriaeth, gan ymateb i anghenion eu gwrandawyr yn well.

 

12. Ystyriwyd yn ofalus iawn sut y byddai'r cynigion yn effeithio ar y cenhedloedd. Roedd yr ymgynghoriad wedi ystyried a ddylid rhoi'r grym i Ofcom bennu gofynion estynedig ar gyfer y cenhedloedd o ran gofynion newyddion a gwybodaeth a gofynion cynhyrchu lleol, o ystyried y ffaith bod radio masnachol yn cyflawni rôl wahanol, a rôl bwysicach y gellid dadlau, yng Nghymru, yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, lle y mae'r BBC yn gweithredu gwasanaethau ar lefel pob cenedl yn hytrach na'r gwasanaethau radio lleol yn Lloegr, y maent yn seiliedig ar siroedd yn bennaf.

 

13. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn dadlau y dylai'r un dadleuon fod yn berthnasol i bob rhan o'r Deyrnas Unedig, ac y byddai gweithredu gofynion estynedig yn cosbi darparwyr gwasanaeth yn y cenhedloedd hynny mewn ffordd annheg. Cytunwyd y gallai rhoi grym o'r fath i Ofcom olygu bod gorsafoedd lleol yn y cenhedloedd dan anfantais, a'i fod yn ddull gwell mynnu bod Ofcom yn ystyried anghenion holl gynulleidfaoedd y Deyrnas Unedig wrth bennu'r gofynion ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.

 

14. Ceir rhannau o fewn yr ymgynghoriad lle y mae angen gwneud gwaith pellach gan na welwyd unrhyw gonsensws ymhlith yr ymatebwyr. O ran dadreoleiddio'r sector radio masnachol, y cam nesaf yw bod DCMS yn cychwyn ar y gwaith manwl o ddatblygu'r strwythur deddfwriaethol newydd a dwyn deddfwriaeth ymlaen cyn y bydd gofyn adnewyddu trwyddedau analog yn 2022. Caiff deddfwriaeth ei dwyn ymlaen pan fydd amser yn y Senedd yn caniatáu hynny. Bydd y llywodraeth yn gweithio i sicrhau bod y cenhedloedd yn cael eu hystyried wrth baratoi deddfwriaeth newydd.

 

 

Radio cymunedol

15. Ar hyn o bryd, mae naw gorsaf radio gymunedol yn darlledu yng Nghymru, ac mae pob un ohonynt yn cynnig gwasanaethau gwerthfawr i'w cymunedau lleol. Mae radio cymunedol yn wahanol i radio masnachol a gwasanaethau radio’r BBC, gan eu bod yn wasanaethau lleol sy'n gwasanaethu ardal ddaearyddol fach ac maent yn orsafoedd di-elw. Maent ar gyfer yr ardal leol ac mae nifer ohonynt yn canolbwyntio ar grwpiau ethnig a diddordebau penodol. Mae Ofcom yn gyfrifol am gyhoeddi'r trwyddedau ar gyfer gwasanaethau radio cymunedol.

 

16. Mae gorsafoedd radio cymunedol yn darparu gwasanaethau gwerthfawr i'r ardaloedd lleol y maent yn eu gwasanaethu, ac mae nifer o'r gorsafoedd cymunedol yng Nghymru yn cynnig rhaglenni Cymraeg. Er enghraifft, mae Calon FM, gorsaf radio gymunedol sy'n darlledu i Wrecsam yn bennaf, yn cynnig rhaglenni Cymraeg wythnosol. Er bod gorsafoedd radio cymunedol yng Nghymru yn gwasanaethu eu hardaloedd lleol yn dda, mae'r niferoedd sy'n manteisio ar drwyddedau radio cymunedol yng Nghymru yn is nag y maent mewn cenhedloedd eraill. Gallai hyn fod am sawl rheswm, megis diffyg gwirfoddolwyr sy'n fodlon rhedeg y gorsafoedd.

 

17. Gall gorsafoedd cymunedol wneud cais am grant gan y Gronfa Radio Cymunedol, a ariannir gan DCMS ac sy'n cael ei redeg gan Ofcom. Mae'r gronfa yn cynnig grantiau er mwyn helpu i dalu'r costau craidd o redeg gorsafoedd radio cymunedol a drwyddedir gan Ofcom, megis rheoli, codi arian i gefnogi'r orsaf, gweinyddu, rheolaeth ariannol, allgymorth cymunedol neu drefnu gwirfoddolwyr. Cynyddodd y llywodraeth y gronfa i £400,000 y flwyddyn yn ystod yr adolygiad gwario diwethaf. Yn ogystal, gall gorsafoedd radio cymunedol fanteisio ar incwm grant arall gan gynnwys gan y loteri genedlaethol. Fodd bynnag, mae gwaith dadansoddi diweddaraf Ofcom[2] yn awgrymu y bu gostyngiad yn y cyllid grant arall sydd ar gael ar gyfer radio cymunedol, wrth i orsafoedd ddibynnu'n fwy ar wirfoddolwyr a chyllid hunangynyrchedig, sydd wedi cael ei gynorthwyo i raddau mwy gan y newidiadau a gyflwynwyd gan DCMS yn 2015 i gynyddu swm yr hysbysebu y gall gorsafoedd radio cymunedol ei gymrydke.

 

18. Bydd y llywodraeth yn ystyried y rôl y gallai amlblethau radio DAB newydd ar raddfa fach ei gyflawni wrth greu cyfleoedd newydd i ddatblygu'r sector radio cymunedol yng Nghymru

 

 

 

Radio digidol

19. Mae gwasanaethau radio digidol ar gael trwy gyfrwng DAB, teledu a'r rhyngrwyd. Felly, mae gan wrandawyr yng Nghymru a rhannau eraill y Deyrnas Unedig amrediad o ddewisiadau er mwyn cael radio digidol, y mae gan bob un ohonynt wahanol nodweddion ac ystyriaethau. Yn y Deyrnas Unedig, darlledir gwasanaeth radio digidol am ddim trwy gyfrwng nifer o amlblethau radio ar draws y wlad[3]. Mae gan DAB a ddarlledir yn ddaearol y fantais ei fod am ddim i wrandawyr ac yn gludadwy, ac mae'n cynnig mwy o ddewis, nid oes angen ail-diwnio a chynigir gwybodaeth ychwanegol am ddarllediadau. Diolch i welliannau a welwyd yn ddiweddar yng nghwmpas y rhwydwaith DAB, gall 92% o gartrefi yng Nghymru gael gwasanaethau DAB cenedlaethol y BBC a gall 86% gael gorsafoedd digidol sy'n cael eu cludo ar amlblethau DAB lleol. Yn gyffredinol, mae gan 96% o gartrefi yng Nghymru[4] set deledu, sy'n golygu eu bod yn gallu gwrando ar radio digidol, ac mae gan 79%[5] gysylltiad band eang, gan gynnig mynediad i radio digidol trwy'r rhyngrwyd.

 

20. Mae gan y llywodraeth amcan hirdymor o gynorthwyo proses bontio i radio digidol a arweinir gan wrandawyr. Ym mis Rhagfyr 2013, nododd gweinidogion DCMS y cynlluniau hirdymor er mwyn datblygu radio digidol, gan gyhoeddi pecyn o fesurau ynghylch cwmpas, cynnwys, defnyddwyr a cheir er mwyn hyrwyddo radio digidol a chynnig mwy o ddewis i wrandawyr.

 

21. Mae nifer y gwrandawyr yng Nghymru sy'n manteisio ar radio digidol yn parhau i dyfu'n gyson o flwyddyn i flwyddyn. Mae data'r diwydiant yn dynodi bod bron i chwech o bob deg oedolyn (58%) yng Nghymru yn berchen ar set radio DAB digidol yn y cartref ac mae bron i ddwy ran o bump (39%) o'r holl weithgarwch gwrando ar y radio yng Nghymru yn cael ei wneud trwy lwyfannau digidol[6]. Mae'r diwydiant radio yn disgwyl i'r newid hirdymor hwn i ddigidol barhau.

22. Mae darlledwyr wedi defnyddio'r capasiti ychwanegol a gynigir gan radio digidol i lansio gorsafoedd newydd, gan ehangu amrediad y rhaglenni llafar a cherddoriaeth sydd ar gael i wrandawyr. Roedd DCMS wedi cefnogi penderfyniad Ofcom i ddyfarnu'r drwydded a'r diwydiant radio i lansio ail amlbleth masnachol cenedlaethol, a ddechreuodd ddarlledu ym mis Mawrth 2016. Roedd y datblygiad hwn wedi mwy na dyblu nifer y gorsafoedd masnachol cenedlaethol sydd ar gael ar DAB. Yn ôl Ofcom, mae 73 o orsafoedd yn darlledu ar DAB yng Nghymru nawr[7], er nad oes modd manteisio ar bob un ohonynt ym mhob rhan o Gymru ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys 13 gan y BBC, 30 o orsafoedd ar y ddau amlbleth masnachol cenedlaethol a 30 o orsafoedd masnachol ar amlblethau DAB lleol.

 

23. Mae'r car yn gyfrifol am tua un rhan o bump o'r holl weithgarwch gwrando ar y radio. Mae gwaith a wneir mewn partneriaeth rhwng y diwydiant radio a chynhyrchwyr ceir yn golygu bod rhan fwyaf y ceir newydd a werthir nawr, (88.8%[8]), yn cynnwys radios digidol fel dewis safonol; mae hwn newid mawr o'i gymharu â'r sefyllfa yn 2010, pan oedd dan 5%.

 

Cwmpas

24. Mae tirwedd Cymru wastad wedi creu sialensiau o ran y signal radio analog a digidol. Mae'r llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd gwrandawyr yn gallu troi at eu hoff orsafoedd radio ar ddigidol. Gan gydweithio'n agos â'r BBC a darlledwyr masnachol, llwyddwyd i wneud cynnydd sylweddol er mwyn gwella'r signal radio digidol cenedlaethol a lleol yng Nghymru er 2013. Cynorthwywyd y gwelliannau mewn signal DAB lleol, sy'n cludo BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru yng Nghymru, wrth i DCMS ddarparu £7.3 miliwn ar ffurf cyllid cyfalaf er mwyn ymestyn neu wella'r cwmpas mewn 221 o safleoedd DAB lleol ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys 20 safle yng Nghymru.

 

25. Cyflawnwyd y rhaglen waith gan y cwmni seilwaith cyfathrebu, Arqiva. Cychwynnwyd ar y gwaith yn gynnar yn 2015 a chwblhawyd y safle olaf – trosglwyddydd newydd yn Abergwaun sy'n gwasanaethu amlbleth lleol Canolbarth a Gorllewin Cymru – ddiwedd fis Mawrth 2018. O ran y rhaglen hon, mae Cymru yn cyfateb â 4.7% o boblogaeth y Deyrnas Unedig ac mae wedi cael cyfran uwch – 7.7% - o gyfanswm cyllid cyfalaf DCMS a neilltuwyd i gynorthwyo gweithgarwch i ehangu'r rhwydwaith DAB lleol.

 

26. Mae Ofcom yn gyfrifol am gynllunio cwmpas radio digidol, a gweithiodd gyda'r diwydiant radio i ddatblygu cynllun er mwyn ehangu'r rhwydwaith DAB lleol er mwyn pennu'r ffordd dechnegol fwyaf effeithlon o gyfateb lefelau cwmpas DAB gydag FM. Yn ôl Ofcom, o ganlyniad i'r buddsoddiad yn y rhaglen, disgwylir i gwmpas rhwydwaith DAB lleol yng Nghymru gynyddu o 63% o gartrefi ar ddiwedd 2013 i 86%[9] ar ôl ei gwblhau.

 

27. Yn 2014, cyhoeddodd Ofcom fapiau manwl yn amlinellu'r gwelliannau disgwyliedig i gwmpas y rhwydwaith DAB lleol ar gyfer yr ardaloedd amlbleth radio digidol lleol yng Nghymru (Abertawe, De Ddwyrain Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Ddwyrain Cymru a Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Orllewin Cymru) yn http://stakeholders.ofcom.org.uk/broadcasting/radio/coverage/dab-coverage-plans/. Ar ôl cwblhau'r rhaglen ehangu DAB lleol, mae Ofcom wedi dweud y bydd yn adolygu'r gwelliannau i'r cwmpas yn erbyn y cynllun gwreiddiol, gan gyhoeddi fersiynau wedi'u diweddaru o'r mapiau yn nes ymlaen yn 2018.

 

28. Ar wahân dan ei chynllun ehangu cam 4, mae'r BBC wedi ehangu ei rhwydwaith radio digidol DAB cenedlaethol (sy'n cludo gwasanaethau radio cenedlaethol y BBC gan gynnwys y rhai sydd ar gael yn ddigidol yn unig) i 163 o safleoedd trosglwyddwyr pellach ar draws y Deyrnas Unedig. Cwblhawyd y safle olaf yn y rhaglen hon ym mis Rhagfyr 2017. Yn ôl y BBC, mae'r rhaglen hon wedi cynyddu cwmpas ei rhwydwaith DAB cenedlaethol yng Nghymru o 86% i 92% o gartrefi.

 

29. Mae sialensiau technegol a masnachol yn bodoli o hyd er mwyn gwneud gwelliannau pellach i'r cwmpas radio digidol. Mae DCMS yn nodi y bydd angen sicrhau cytundeb rhwng y BBC, radio masnachol a llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gynllun ar gyfer gwelliannau pellach i rwydweithiau DAB er mwyn cyfateb cwmpas FM fel rhan o unrhyw benderfyniadau a wneir yn y dyfodol ynghylch trosglwyddo ym maes radio.

 

Casgliad

30. Yn gyffredinol ar gyfer y Deyrnas Unedig, mae'r data diweddaraf gan y diwydiant (RAJAR[10] Ch4 2017) yn dangos mai 49.9% yw'r gyfran ddigidol ar gyfer yr holl weithgarwch gwrando ar y radio, i fyny o 45.2% yn ystod Ch 2016. Mae'r diwydiant radio yn disgwyl i'r newid hirdymor mewn arferion gwrando o analog i ddigidol barhau, ac y bydd cyfran yr elfen ddigidol yn uwch na 50% yn nes ymlaen yn 2018. Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi nodi y bydd yn adolygu'r safbwynt ynghylch radio digidol ar ôl y bodlonir maen prawf 50% o'r gyfran sy'n gwrando. Fodd bynnag, nid yw'r penderfyniad ynghylch newid yn syml ac mae gofyn gwneud gwaith pellach. Bydd adolygiad yn archwilio'r cynnydd a sicrhawyd mewn meysydd allweddol a'r effaith gyffredinol ar wrandawyr yng Nghymru yn ofalus. Yn ogystal, bydd angen i'r gwaith hwn archwilio'r prif sialensiau megis ymestyn y cwmpas DAB yng Nghymru. Fel rhan o adolygiad am ddyfodol radio digidol, byddwn yn ceisio mewnbwn gan randdeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymr.

 

31. Nid yw radio cymunedol mor sefydledig yng Nghymru ag y mae mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Byddwn yn chwilio am ffyrdd y gall radio cymunedol ddatblygu ymhellach yng Nghymru, a bwriadwn gael trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru ynghylch sut i symud hyn yn ei flaen.

 

 



[1] Ofcom. Adroddiad y Farchnad Gyfathrebu (CMR): Cymru (radio a sain). 2017.

Sylwer: Caiff cyrhaeddiad ei ddiffinio fel nifer y bobl 15+ oed sy'n gwrando ar orsaf radio am o leiaf un cyfnod o chwarter awr mewn wythnos.

[2] Ofcom. Adroddiad y Farchnad Gyfathrebu (CMR): Y Deyrnas Unedig. 2017.

[3] Mae amlbleth radio yn cynnwys nifer o orsafoedd radio DAB wedi'u bwndelu er mwyn eu darlledu'n ddigidol mewn ardal ddaearyddol benodol, naill ai'n genedlaethol neu ar lefel sirol.

[4] Ofcom. Adroddiad y Farchnad Gyfathrebu (CMR): Cymru (radio a sain). 2017.

[5] Ofcom. Adroddiad y Farchnad Gyfathrebu (CMR): Cymru (radio a sain). 2017.

[6] Ofcom. Adroddiad y Farchnad Gyfathrebu (CMR): Cymru (radio a sain). 2017. Gweler y ffigurau ar gyfer Ch1 2017.

[7] Ofcom. Adroddiad y Farchnad Gyfathrebu (CMR): Cymru (radio a sain). 2017.

[8] Data CAP/SMMT Ch4 2017.

[9] Mireiniwyd y cynllun a gallai'r cwmpas go iawn fod ychydig yn wahanol i'r ffigurau hynny pan fydd Ofcom yn ei adolygu ar ôl cwblhau'r rhaglen ehangu.

[10] Radio Joint Audience Research (RAJAR) yw corff y diwydiant sy'n darparu ffigurau mesur cynulleidfaoedd.